Dyfodol gwell i wasanaethau cyhoeddus
Mae’r ffordd rydym yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi torri.
Ond does dim rhaid i hynny barhau.
Ar hyn o bryd, mae gormod o wasanaethau’n rhai adweithiol, araf… sy’n methu â diwallu anghenion pobl. Mae’r sector cyhoeddus dan bwysau. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn meysydd hanfodol, fel llywodraeth leol a’r GIG - lle mae’r mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn profi gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd. Mae arian yn brin. Mae’r rhestr o heriau brys yn tyfu o hyd — felly hefyd y bwlch rhwng yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl a’r hyn y gall gwasanaethau ei gyflawni.
Mae’n amser am ddull newydd.
Casgliad o arweinwyr profiadol ym maes digidol a dylunio yw Trawsnewid Cymru sy’n credu mewn ffordd well o weithio: ffordd agored, fodern gydag ymddiriedaeth yn sail iddi.
Rydyn ni wedi gweld beth sy’n gweithio. Rydym wedi helpu i arwain newid. Ac rydym yn gwybod mai nawr yw’r amser i weithredu.
Gweithredu dros lywodraeth sy’n gweithio’n ddoethach, dros wasanaethau sy’n ennill ymddiriedaeth pobl, dros Gymru sy’n arwain trwy esiampl.
Darllenwch ein hadroddiad Edrychwch ar sut y gallwn gyrraedd yno Darllenwch y blog