Dyfodol gwell i wasanaethau cyhoeddus

Casgliad o arweinwyr profiadol ym maes digidol a dylunio yw Trawsnewid Cymru sy’n credu mewn ffordd well o weithio: ffordd agored, fodern gydag ymddiriedaeth yn sail iddi.

Rydyn ni wedi gweld beth sy’n gweithio. Rydym wedi helpu i arwain newid. Ac rydym yn gwybod mai nawr yw’r amser i weithredu.

Y blogiau diweddaraf

Cynllun 100 diwrnod
Nodyn

Mae 100 diwrnod yn ddigon i brofi ffordd wahanol o lywodraethu

Cylchlythyr
Ebrill / April 2026

#8 - 📝 Maniffestos pleidiau a thrawsnewid digidol

Senedd 2026 Maniffestos
Nodyn

Profi maniffestos 2026 yn erbyn realiti digidol

Darllenwch ein hadroddiad

Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu strategaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru, nid yn unig i ddiwallu gofynion brys y presennol ond i gyflawni gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gallwn sicrhau Cymru ffyniannus, wydn, sy’n iachach ac yn fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Darllenwch ein hadroddiad

Ffordd well

Os yw Cymru eisiau ymateb i’r her o wella gwasanaethau cyhoeddus, mae’n rhaid i ni newid sut rydym yn eu cynllunio a’u darparu. Mae hynny’n golygu rhoi pobl yn gyntaf, mabwysiadu ffyrdd modern ac agored o weithio, gan ddefnyddio’r arferion digidol gorau i adeiladu gwasanaethau sy’n syml, yn effeithlon, ac wedi’u cynllunio o amgylch anghenion bywyd go iawn.

Sut i gyrraedd yno

Mae gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad o ran gwasanaethau cyhoeddus modern, sy’n canolbwyntio ar bobl. Ond i gyrraedd yno rhaid inni weithredu’n bendant mewn tri phrif faes: arweinyddiaeth, sgiliau a chyllido.

Galwad i weithredu

Ni all Cymru fforddio syrthio ymhellach ar ei hôl hi. Mae hyn yn fwy na diwygio digidol. Dyma sut rydym yn adeiladu Cymru fwy gwydn ac ymatebol – un sy’n gweithio i bawb, am genedlaethau i ddod. Mae’r dewis yn glir. Aros yn sownd. Neu arwain y ffordd.