Mae’r adroddiad hwn yn nodi llwybr at wasanaethau cyhoeddus gwell, wedi’i seilio ar ddegawdau o brofiad ac arfer. I’r rhai sy’n barod i gymryd y cam nesaf, rydym wedi paratoi adnoddau hanfodol i gefnogi gweithredu’n ymarferol.

Mae’r llyfrau, yr adroddiadau a’r gwefannau hyn yn cynnig canllawiau clir ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, cyflawni ystwyth, gweithio agored, ac adeiladu seilwaith digidol modern.


System Reboot (2018)

Clawr blaen ar gyfer System Reboot (2018)
Awdur Lee Waters. Mae’r adroddiad dylanwadol hwn yn amlinellu’r angen brys am drawsnewid systemig o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gan osod y cefndir ar gyfer ein gwaith, mae’n tynnu sylw at heriau hirhoedlog ac yn cyflwyno’r achos dros ddull beiddgar, newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
System Reboot (2018)

Safon Gwasanaethau Digidol Cymru

Clawr blaen ar gyfer Safon Gwasanaethau Digidol Cymru
Awdur Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Llywodraeth Cymru. Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru yn darparu canllawiau ymarferol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn diwallu anghenion defnyddwyr. Mae’n ymgorffori’r egwyddorion ‘ffordd well’ rydyn ni wedi’u hamlinellu, gan gynnig fframwaith pendant i dimau ledled Cymru adeiladu gwasanaethau sy’n symlach, yn gliriach ac yn gyflymach.
Safon Gwasanaethau Digidol Cymru

The Radical How

Clawr blaen ar gyfer The Radical How
Awdur Andrew Greenway a Tom Loosemore. Mae’r llyfr hwn yn lasbrint hynod ddiddorol ar gyfer cyflawni trawsnewid o fewn llywodraeth. Mae’n cynnig canllawiau ymarferol ar feddylfryd, dulliau a heriau trawsnewid digidol, gan lywio ein pwyslais ar symud y tu hwnt i atebion tymor byr a sicrhau ffyrdd newydd o feddwl a gwneud.
The Radical How

Digital Transformation at Scale

Clawr blaen ar gyfer Digital Transformation at Scale
Awdur Andrew Greenway, Tom Loosemore, Mike Bracken a Ben Terrett . Gan adeiladu ar brofiad helaeth o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r llyfr hwn yn cynnig cipolwg hollbwysig ar sut y gellir rheoli trawsnewid digidol mawr ar draws sefydliadau mawr a chymhleth. Mae’n cefnogi ein galwadau am arweinyddiaeth feiddgar, timau amlddisgyblaethol, a ffocws ar gyflawni parhaus, ac yn dangos sut mae’r egwyddorion hyn yn trosi’n newid systemig ar raddfa fawr.
ISBN: 978-1-9130193-9-6 Digital Transformation at Scale

The agile comms handbook

Clawr blaen ar gyfer The agile comms handbook
Awdur Giles Turnbull. Mae cyfathrebu clir ac agored yn hanfodol ar gyfer trawsnewid digidol llwyddiannus - yn enwedig wrth weithio yn agored. Mae’r llawlyfr hwn yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i gyfathrebu’n dryloyw, gan ganiatáu ailadrodd a gwella a chefnogi ein galwad am dryloywder radical a helpu i adeiladu diwylliant gwasanaeth cyhoeddus mwy agored.
ISBN: 978-1-7399422-3-6 The agile comms handbook

Ysgrifennu Triawd: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Clawr blaen ar gyfer Ysgrifennu Triawd: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
Awdur Joanna Goodwin, Adrián Ortega, Ceri Brunelli-Williams, Heledd Quaeck, a Nia Campbell . Mae’r canllaw ymarferol hwn i ysgrifennu ar y cyd yn cefnogi ein hegwyddorion o weithio mewn tîm agored ac amlddisgyblaethol. Mae’n dangos sut y gall cydweithio strwythuredig gynhyrchu cynnwys dwyieithog clir sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan arwain at gyfathrebu a chanlyniadau gwell mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
ISBN: 978-1-4467822-4-8

Platformland: An anatomy of next-generation public services

Clawr blaen ar gyfer Platformland: An anatomy of next-generation public services
Awdur Richard Pope. Mae’r meddwl dylanwadol hwn yn archwilio’r cysyniad o ’lwyfannau’ fel seilwaith digidol sylfaenol, gan symud y tu hwnt i wasanaethau unigol i greu cydrannau y gellir eu hailddefnyddio a galluoedd a rennir ar draws y llywodraeth. Mae’n sail i’n hargymhellion ar gyfer trwsio ‘seilwaith’ y llywodraeth a symleiddio caffael, gan alluogi gwladwriaeth ddigidol fwy integredig ac effeithlon.
ISBN: 978-1-9167491-1-5 Platformland: An anatomy of next-generation public services

The Service Organization

Clawr blaen ar gyfer The Service Organization
Awdur Kate Tarling. Mae’r llyfr hwn yn cynnig canllawiau hanfodol ar sut y gellir strwythuro a arwain sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn effeithiol. Mae’n darparu fframweithiau ymarferol ar gyfer adeiladu diwylliant sefydliadol sy’n cefnogi dylunio a darparu gwasanaethau’n barhaus, ac yn llywio’n uniongyrchol ein hargymhellion ar arweinyddiaeth, timau amlddisgyblaethol, a ffyrdd gwell o weithio.
ISBN: 978-1-913019-76-1 The Service Organization

A blueprint for a modern digital government

Clawr blaen ar gyfer A blueprint for a modern digital government
Awdur Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r glasbrint hwn yn nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth ystwyth, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - mae’n atseinio’n ddwfn â’n hargymhellion. Mae’n ategu pwysigrwydd seilwaith cyhoeddus digidol integredig, safonau agored, a ffocws ar ganlyniadau, ac yn darparu cyd-destun strategol ehangach ar gyfer y camau gweithredu a gynigir yn ein hadroddiad.
A blueprint for a modern digital government

Foundations Of The Digital State independent report for Scottish Government

Clawr blaen ar gyfer Foundations Of The Digital State independent report for Scottish Government
Awdur Gordon Guthrie. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer adeiladu gwladwriaeth ddigidol fodern, sy’n arbennig o berthnasol mewn cyd-destun datganoledig. Mae ei ffocws ar gydrannau sylfaenol, galluoedd a buddsoddiadau strategol yn darparu cyfatebiaethau gwerthfawr ac yn atgyfnerthu’r newidiadau systemig yr ydym yn dadlau drostynt: arweinyddiaeth, sgiliau a chyllid i alluogi trawsnewid digidol cynaliadwy yng Nghymru.
ISBN: 978-1-0685451-0-8 Foundations Of The Digital State independent report for Scottish Government