Galwad i weithredu
Ni all Cymru fforddio syrthio ymhellach ar ei hôl hi.
Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dal yn ôl gan systemau hen ffasiwn, arweinyddiaeth dameidiog ac atebion tymor byr. Mae’n rhwystredig. Mae’n erydu ffydd, hyder ac ymddiriedaeth pobl. Ac mae potensial ein cenedl yn cael ei wastraffu.
Nid oes rhaid i bethau fod fel hyn.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi llwybr gwell: gwasanaethau cyhoeddus modern, sy’n canolbwyntio ar bobl, wedi’u cynllunio ar gyfer y byd go iawn. Gwasanaethau wedi’u llunio gan dystiolaeth, wedi’u darparu gan dimau grymus, ac wedi’u gwella’n barhaus, nid unwaith bob degawd.
I wireddu hyn, rhaid i lywodraeth nesaf Cymru weithredu gyda dewrder. Nid ymhen pedair blynedd – nawr.
Mae angen arnom:
- arweinyddiaeth feiddgar gyda mandad clir ar gyfer newid
- buddsoddi hirdymor mewn pobl a sgiliau
- modelau ariannu sy’n cefnogi dysgu, nid etifeddiaeth
Mae hyn yn fwy na diwygio digidol. Dyma sut rydym yn adeiladu Cymru fwy gwydn ac ymatebol – un sy’n gweithio i bawb, am genedlaethau i ddod.
Mae'r dewis yn glir. Aros yn sownd. Neu arwain y ffordd.