Rydym yn gyffrous i rannu bod adroddiad Trawsnewid Cymru newydd gael ei lansio, a chi yw’r cyntaf i glywed!
Bydd etholiad 2026 yn creu Senedd sy’n fwy o faint, gyda mandad newydd. Mae’n gyfle i roi diwedd ar ddegawdau o atebion tymor byr ac addewidion wedi’u torri – gallwn ddewis torri’n rhydd o hynny.
Nid technoleg yn unig yw dull digidol. Mae’n ymwneud â ailfeddwl sut rydym yn dylunio, yn darparu ac yn cynnal gwasanaethau.
Mae ein hadroddiad newydd yn dangos bod angen i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ailfeddwl yr hyn y mae’n ei gyflawni ac, yn bwysicach fyth, sut mae’n cyflawni.
Byddwch y cyntaf i ddarllen adroddiad Trawsnewid Cymru
Gallwch ei ddarllen ar-lein neu lawrlwytho, nawr ac archwilio ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy digidol, cynhwysol ac uchelgeisiol.
Mae dydd Gwener yn ddiwrnod gwych i neilltuo 30 munud i’w ddarllen!
Ffyrdd eraill y gallwch ein cefnogi
- Rhannwch yr adroddiad gyda’ch rhwydwaith ar Linkedin
- Anfonwch yr e-bost hwn ymlaen at 3 pherson a fydd â diddordeb
- Dilynwch ni ar BlueSky a rhannwch ein postiadau
Cefnogwch ein hymgyrch ariannu torfol
Dydyn ni ddim eisiau i’r adroddiad hwn eistedd ar wefan. Er mwyn gwneud effaith wirioneddol, mae angen i ni ei roi i ddwylo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau cyn etholiad y Senedd. Dyna pam rydym wedi lansio ymgyrch ariannu torfol i dalu costau argraffu a chefnogi ymgyrch i ledaenu ein syniadau yn ehangach.
Os ydych chi’n credu yn y gwaith hwn, ystyriwch wneud rhodd heddiw. Mae pob cyfraniad yn ein helpu i ehangu ein neges.
Os byddwch chi’n rhoi rhodd yn gyhoeddus, byddwch yn cael eich hysbysu ar ein gwefan hefyd!
Rhowch i’n hymgyrch ariannu torfol
Diolch am eich cefnogaeth. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod y weledigaeth hon yn llunio dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.