Helo bawb.
Am noson!
Diolch i bawb a ddaeth neu a ymunodd ar-lein â’n digwyddiad cyntaf mewn partneriaeth â Gavin a David o TransformGov Talks.
Roedd yr egni, cyflwyniadau a’r cwestiynau’n ardderchog. Diolch mawr i’n siaradwyr:
- Bu Cath Elms a Damien Hatton o Awdurdod Cyllid Cymru yn sôn am eu dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr wrth ddylunio’r gofrestr llety ymwelwyr.
- Rhannodd Rebecca Morales-Reeves a Lee Williams o’r Gwasanaeth Cyfnewid Cydweithredol (SRS) eu dull o foderneiddio’r gwasanaeth Treth Gyngor ym Mlaenau Gwent.
- Roedd Dafydd Vaughan a Jo Carter yn cynrychioli Trawsnewid Cymru ac yn trafod yr amodau sydd eu hangen i alluogi trawsnewid digidol llwyddiannus yng Nghymru.
Diolch hefyd i’r tîm yn y fenter gymdeithasol wych, The Bike Lock yng Nghaerdydd, am ddarparu lleoliad croesawgar a bwyd gwych!
Cadwch lygad allan am bost ar ein blog yn gynnar yr wythnos nesaf a fydd yn tynnu sylw at y prif themâu o’r tri chyflwyniad. Yn y cyfamser, gallwch wylio recordiad y cyflwyniadau ar YouTube a gwrando ar y recordiad sain ar Spotify.
Cymerwch ran
Gofynnodd Damien sut y gallai gymryd rhan yn ein gwaith yma yn Trawsnewid Cymru, felly dyma rai ffyrdd o wneud hynny:
- Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Trawsnewid Cymru i glywed am waith digidol sy’n digwydd ledled Cymru ac i gael y diweddaraf.
- Ymunwch â chymuned Slack Cymru Ddigidol i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, newyddion, swyddi a mwy.
- Ymunwch â 175 o bobl eraill yn GovCamp Cymru, ein cynhadledd anghonfensiynol, ar 6 Tachwedd yng Nghaerdydd. Bydd y swp nesaf o docynnau am ddim ar gael am 12:30pm ar 30 Medi. Dewch i ffwrdd yn llawn egni ac yn barod i fanteisio ar y cyfle!
Os oes gennych syniad ar gyfer cyflwyniad yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.