Helo bawb.
Rydyn ni’n cymryd seibiant byr dros yr haf, ond mae digon yn dal i ddigwydd ar draws cymuned ddigidol Cymru. Yn hytrach na’ch gadael i aros tan fis Medi, rydyn ni wedi casglu crynodeb byr o’r newyddion a’r datblygiadau diweddaraf.
Cadwch y dyddiad!
Mae wedi bod ar y gweill ers tro, ond rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd ein digwyddiad wyneb yn wyneb am ddim gyda TransformGov Talks yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Medi am 6yh.
Archebwch eich tocyn – byddwn yn cyhoeddi’r siaradwyr yn fuan!
Newyddion digidol y mis yng Nghymru
Gweithio gyda’n gilydd fel Perchnogion Gwasanaeth: llunio gwasanaethau gwell ym maes gofal iechyd
Mae Ayala Gordon yn myfyrio ar yr hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn dod ynghyd o amgylch dealltwriaeth gyffredin o anghenion defnyddwyr, canlyniadau a diben. Fel mae’n dweud: “Mae ‘Perchennog Gwasanaeth’ yn rĂ´l; mae ‘perchnogaeth gwasanaeth’ yn feddylfryd. Er y gall un person ddal y teitl, mae gwella gwasanaethau’n gofyn am ymrwymiad ar y cyd i ddeall anghenion defnyddwyr, canlyniadau a gwelliant parhaus.”
Archwilio Cymru yn cyhoeddi Cod Ymarfer Archwilio newydd
Mae Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn amlinellu’r Cod Ymarfer Archwilio newydd, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar gymesuredd, archwilio ar sail risg, annibyniaeth a defnyddio barn broffesiynol. Mae hefyd yn adlewyrchu datblygiadau fel y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn archwilio. Mae’r Cod yn darparu fframwaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer archwilio’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan helpu i sicrhau bod gwaith craffu’n parhau’n effeithiol ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus.
Sut dylai llywodraethau fynd i’r afael â heriau polisi cymhleth?
Mae Andy Regan, Pennaeth Nesta Cymru, yn ymuno â phodlediad Walescast i drafod beth sydd ei angen i gyflawni diwygiadau uchelgeisiol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ym maes gofal plant. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod Cymru’n parhau i wynebu penderfyniadau polisi anodd sy’n galw am ffyrdd newydd o ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Dylunio’r darlun ehangach
Mae Amy Richards yn myfyrio ar yr hyn mae hi wedi’i ddysgu dros saith mis yn gweithio fel prif ddylunydd gwasanaeth ar Ap GIG Cymru. Mae hi’n dadlau bod angen i dimau gydweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau a sefydliadau er mwyn gwella’r gwasanaethau ehangach y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Mae hyn yn bwysig oherwydd, er mwyn gwella gofal iechyd digidol, mae angen gwella’r gwasanaeth cyfan, nid dim ond yr hyn sydd ar y sgrin.
Lansio gwasanaeth newydd dwyieithog i ymgeisio am gynllun rheoli coedwig
Mae Jane Davidson yn rhannu sut y gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru droi proses gymhleth ar gyfer gwneud cais am gynllun rheoli coedwig yn wasanaeth ar-lein dwyieithog a chliriach. Drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr coedwigaeth a defnyddwyr, fe wnaeth y tîm symleiddio’r canllawiau, cael gwared ar gwestiynau diangen a phrofi’r gwasanaeth cyn ei lansio. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n dangos sut y gall cydweithio a phrofi’n gynnar wneud gwasanaethau cyhoeddus cymhleth yn symlach i bobl eu defnyddio ac yn fwy effeithlon i’r timau sy’n eu darparu.
Pam mae darganfod parhaus yn bwysig
Mae Nia Campbell o Trawsnewid Cymru yn esbonio sut mae tîm Ap GIG Cymru yn dysgu’n barhaus gan gleifion er mwyn gwella gwasanaethau a helpu i benderfynu ble i fuddsoddi yn y dyfodol. Drwy gyfuno arolygon, data ac ymchwil, gall y tîm adnabod problemau na fydd mesurau perfformiad ar eu pen eu hunain yn eu datgelu. Gallan nhw hefyd weld a yw newidiadau yn gwella profiadau pobl.
Digwyddiadau i ddod
Cynhadledd Access for All – dydd Mercher 30 Medi yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
GovCamp Cymru - yn Ă´l yng Nghaerdydd ddydd Gwener 6 Tachwedd. Gallwch gofrestru nawr i gael diweddariadau am ryddhau tocynnau a rhagor o fanylion.