Polisi preifatrwydd y wefan
Pwy ydym ni
Casgliad o arbenigwyr ym maes trawsnewid digidol a dylunio yw Trawsnewid Cymru sydd â degawdau o brofiad o arwain newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cawn ein harwain gan Ann Kempster, Dafydd Vaughan, Jo Carter a Nia Campbell.
Dyma’n gwefan: https://www.transform.wales a https://www.transform.cymru
Ein polisi
Rydym yn addo trin â pharch wybodaeth bersonol pawb rydym yn dod i gysylltiad â nhw. Rydym am i bethau fod yn syml ac yn glir.
Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut rydym am wneud hynny – pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth, sut rydym yn ei defnyddio, y sefyllfaoedd pan all pobl eraill weld yr wybodaeth honno neu ei defnyddio, a sut rydym yn cadw’r wybodaeth yn ddiogel.
Ond os nad ydych chi eisiau darllen drwy’r holl fanylion nawr, gallwn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf:
Nid ydym yn gwerthu, rhentu na chyfnewid rhestrau e-bost gydag unrhyw un arall.
Pwy bynnag ydych chi, ein bwriad yw defnyddio eich gwybodaeth i wneud i bethau weithio’n esmwyth i chi yn ystod eich profiad o ddelio â ni. Os nad dyna sut fydd pethau i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni i ddweud wrthym. Ysgrifennu atom sydd orau, a gallwch wneud hynny drwy e-bostio’r cyfeiriad uchod.
Rydym yn adolygu’r Polisi hwn yn rheolaidd, ac efallai y byddwn yn ei ddiwygio dros amser. Edrychwch yma eto o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf.
Ein dull cyffredinol o ymdrin â data personol
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a sicrhau eich hawliau cyfreithiol o ran pennu sut y cawn ddefnyddio eich data personol.
Dim ond pan fydd angen angen inni wneud y canlynol y byddwn yn casglu a defnyddio data personol:
-
pan fyddwch wedi gofyn i ni wneud rhywbeth (er enghraifft, anfon copi o’n hadroddiad atoch, neu anfon ein cylchlythyr atoch);
-
er mwyn ymateb i ymholiadau neu gwynion;
-
er mwyn datblygu a rheoli ein perthynas â phobl;
-
er mwyn casglu adborth er mwyn gwella ein gwasanaeth;
-
er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol, ac nad yw’n fwy nag sydd ei hangen arnom.