Heriau cyfredol
Mae'r ffordd rydym yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi torri.
Ers dros ddegawd, rydym wedi methu â chynyddu ein capasiti gwladwriaethol wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru wynebu pwysau cynyddol: galw cynyddol ochr yn ochr â llai o gyllid. Mae angen mwy ar bobl - ac maen nhw’n disgwyl mwy… ond mae gwasanaethau cyhoeddus wedi methu â chadw i fyny.
Mae cynghorau’n ei chael hi’n anodd cadw gwasanaethau hanfodol i fynd. Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn aml yn gweithio ar wahân, yn wynebu tanariannu cronig, ac yn dibynnu ar fodelau cyflawni hen ffasiwn. Mae rhaglenni technoleg drudfawr yn cymryd blynyddoedd i’w gwireddu - a phur anaml y maent yn cyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen ar bobl.
Mae’r GIG yn ei chael hi’n anodd cydbwyso cyllidebau, lleihau amseroedd aros, ac ymdopi â chiwiau hir yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar ei hôl hi – nid yn unig o’i gymharu â Lloegr, ond o’i gymharu â gwledydd eraill fel Estonia, Canada, a gwledydd y Caribî sy’n arwain y ffordd o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Ers blynyddoedd rydym wedi dibynnu ar atebion tymor byr i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd. Ychydig mwy o arian fan hyn, peth ad-drefnu fan draw. Ond nid yw’n ddigon. Heb hwb mawr i ysgogi diwygio systemig, dim ond gwaethygu problemau y mae’r dull dameidiog hwn yn ei wneud mewn gwirionedd.
Rydyn ni’n sownd mewn cylch dieflig, lle mae angen mwy a mwy o ymdrech i sefyll yn llonydd.
A nawr, mae’r Adolygiad Gwariant diweddaraf yn gwneud i bethau edrych yn anoddach fyth. Mae dewisiadau mawr ar y gorwel.
Mae’n bryd symud y tu hwnt i reoli argyfwng a dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Allwn ni ddim fforddio aros 5 mlynedd arall.
Nid yw’r hen ffyrdd yn gweithio.
Ers blynyddoedd, mae’r llywodraeth wedi troi at dechnoleg i wneud gwasanaethau’n fwy effeithlon.
Er bod technoleg wedi newid yn aruthrol yn ystod y 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, nid yw’r ffordd rydym yn cyflawni wedi newid.
Mae Cymru’n dibynnu gormod ar gyflenwyr TG mawr – sydd yn aml wedi’u lleoli y tu allan i Gymru, ac yn dal i ddefnyddio dulliau cyflawni hen ffasiwn. Mae’r dulliau hyn yn dibynnu ar fisoedd o gynllunio ymlaen llaw, llywodraethu trwm sy’n arafu pethau heb ychwanegu gwerth, a chylchoedd caffael hir sy’n aml yn methu. Hyd yn oed pan fydd prosiectau’n lansio flynyddoedd yn ddiweddarach, maent fel arfer yn hen ffasiwn, wedi mynd dros y gyllideb, ac yn wastraff arian cyhoeddus.
Mae hyn yn ein hatal rhag defnyddio ffyrdd mwy modern ac effeithiol o weithio - gan sicrhau gwerth, a hynny’n gyflym.
Mae polisi yn dal i gael ei lunio heb ddeall y ddarpariaeth. Mae technoleg yn dal i gael ei phrynu heb feddwl am ddefnyddwyr. Mae rhaglenni mawr yn addo popeth – yna’n cyflawni’n rhy hwyr, neu ddim o gwbl.
Rydyn ni wedi dylunio o amgylch y dechnoleg - nid er budd pobl, ac mae’n hynny’n dangos. Rydym yn parhau i roi technoleg a pholisi yn gyntaf - a phrofiad yn olaf. Rydym yn camgymryd cynhyrchion digidol am drawsnewid digidol. Rydym yn dibynnu ar addewidion gwag ar ffurf ‘atebion cyflym’ fel Deallusrwydd Artiffisial - ac yn tybio y byddant yn ein cael ni allan o dwll.
A chyda sefydliadau i gyd yn ceisio datrys yr un problemau ar eu pen eu hunain – o ofal cymdeithasol i dai – rydym yn gwastraffu arian, amser ac ymdrech. Gellid gwneud pethau’n well wrth gydweithio.
Nid dim ond offer gwell sydd ei angen - ond ffyrdd gwell o weithio.
Mae hynny’n golygu dechrau gydag anghenion pobl. Profi a dysgu, nid dyfalu a lansio. Ac adeiladu yn agored, gyda thimau sy’n gallu addasu wrth fynd.
Mae’r gwir gyfle yn gorwedd yn y ffordd rydym yn gweithio - nid yr hyn rydym yn ei greu.
Mae arfer da yn bodoli, ond nid dyna’r safon arferol.
Nid yw Cymru’n brin o dalent na syniadau da.
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi profi gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys symudiad cadarnhaol tuag at ddylunio gwasanaethau dwyieithog gwell drwy gydweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
Ochr yn ochr â hyn, mae sefydliadau eraill wedi dangos beth sy’n bosibl. Mae Chwaraeon Cymru wedi ailgynllunio ei wasanaeth grantiau cymunedol i fod yn fwy cynhwysol. Gwnaeth Awdurdod Cyllid Cymru brototeipio polisi yn agored. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu ac yn dysgu’n agored. Mae cynghorau yng Ngwent yn ffurfio uned ddigidol a rennir i rannu adnoddau a dysgu, a lleihau dyblygu.
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo ac yn gorfodi’r dulliau modern hyn ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer llywodraeth leol a’r GIG.
Ond maen nhw ar raddfa fach, yn dameidiog, ac ymhell o fod yn safonol. Mae cynnydd yn rhy araf.
Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru wedi dod i stop.
Mae’r llywodraeth nesaf yn gyfle i wneud pethau’n wahanol, a’u gwneud yn well.