Pam mae hyn yn bwysig
Nid yw gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi cadw i fyny.
Mae technoleg wedi trawsnewid sut rydym yn byw, yn gweithio ac yn cysylltu â’r byd.
Mae pobl yn disgwyl i wasanaethau cyhoeddus fod yn syml, yn gyflym, ac yn hawdd eu defnyddio – yn union fel popeth arall yn eu bywydau. Ond yn rhy aml, mae gwasanaethau’r llywodraeth yn araf, yn drwsgl, ac yn rhwystredig.
Pan fydd gwasanaethau’n edrych yn wael ac yn teimlo’n wael, mae ymddiriedaeth yn y llywodraeth yn cael ei erydu.
Mae angen dylunio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o amgylch y bobl a’r cymunedau sy’n eu defnyddio.
Nid technoleg yw’r unig ystyriaeth wrth foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn oll am sicrhau dyfodol Cymru.
Os gweithredwn ni nawr, gallwn ni adeiladu cenedl lle mae’r llywodraeth yn gweithio’n ddoethach, lle mae pobl yn ymddiried mewn gwasanaethau cyhoeddus, a lle mae busnesau a thalent yn ffynnu.
Cymru gryfach, mwy dylanwadol.
Mae arwain drwy esiampl mewn trawsnewid digidol yn gwneud Cymru yn genedl flaengar ac uchelgeisiol y mae eraill yn edrych ati am ysbrydoliaeth.
Drwy wella sut mae’r llywodraeth yn gweithio, gallwn negodi â San Steffan o sefyllfa gref a chael ein cymryd o ddifrif ochr yn ochr â gwledydd digidol eraill.
Economi ffyniannus a swyddi sydd wedi’u diogelu ar gyfer y dyfodol.
Mae buddsoddi mewn sgiliau digidol ac arbenigedd yng Nghymru yn creu swyddi o ansawdd uchel ac yn gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i fyw a gweithio ynddo.
Mae tyfu a chefnogi busnesau, prifysgolion, colegau a thalent technoleg lleol yn sicrhau bod arian yn aros yng Nghymru, gan leihau dibyniaeth ar ymgynghorwyr allanol drud.
Gallwn ddangos i’r byd ein bod yn genedl hyblyg, sy’n meddwl ymlaen, a rhoi rhywbeth i’r diaspora Cymreig fod yn gyffrous yn ei gylch.
Gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn gweithio.
Mae ffyrdd modern o weithio sy’n canolbwyntio ar bobl yn arwain at wasanaethau cyflymach, tecach a mwy hygyrch – wedi’u cynllunio o amgylch anghenion gwirioneddol pobl, nid systemau hen ffasiwn.
Drwy gywiro sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu, gallwn leihau gwariant tymor byr, adweithiol a chanolbwyntio ar welliannau tymor hir sy’n fuddiol i gymunedau ledled Cymru.
Mae hyn bwysicaf mewn mannau fel llywodraeth leol a’r GIG, lle mae gwasanaethau o ddydd i ddydd yn llunio bywydau a lles pobl.
Mae dylunio gyda defnyddwyr o’r cychwyn cyntaf yn helpu i greu systemau cynhwysol sy’n cefnogi’r bobl sydd eu hangen fwyaf - yn hytrach na’u heithrio. Nid effeithlonrwydd yw’r unig ystyriaeth. Mae dylunio gyda defnyddwyr o’r cychwyn cyntaf yn hanfodol ar gyfer adeiladu Cymru iachach, mwy cyfartal a llewyrchus, yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Llywodraeth sy’n ennill ymddiriedaeth.
Pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio’n dda, mae hyder yn y llywodraeth yn cynyddu oherwydd bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Mae hyn yn golygu cyflawni newidiadau amlwg a chadarnhaol i’w bywydau bob dydd – gwasanaethau sy’n amlwg yn gyflymach, yn symlach ac yn fwy effeithiol.
Mae gwariant tryloyw yn gwneud defnydd gwell o arian cyhoeddus, gan leihau gwastraff a gwneud penderfyniadau’n gliriach.
Drwy weithio’n agored a chan ailadrodd a gwella’n gyflym, bydd y llywodraeth yn meithrin y cyfranogiad, y cydweithio a’r meddwl hirdymor sy’n sail i egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ailadeiladu ymddiriedaeth a sicrhau atebolrwydd.