Nodyn ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)
Rydym wedi osgoi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn yr adroddiad hwn - a hynny’n fwriadol. Nid un dechnoleg yw AI, nac ateb syml i bopeth. Daw law yn llaw ag addewid… ond hefyd risg. Mae eisoes yn helpu meddygon i wneud diagnosis o ganser yn fwy effeithiol. Ond gall hefyd ategu rhagfarn a thuedd, gorganoli pŵer, ac achosi niwed go iawn os caiff ei ddefnyddio’n ddiofal.