Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern
Yn 2026, bydd Cymru yn ethol Senedd newydd – un fwy o faint a fydd, am y tro cyntaf, wedi’i dewis yn gyfan gwbl drwy gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae’n annhebygol y bydd un blaid yn ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth â mwyafrif ar ei phen ei hun. I ba bynnag bleidiau sy’n ffurfio clymblaid, dyma gyfle felly i ailddychmygu sut y gall ein gwasanaethau cyhoeddus wasanaethu pobl yn well, cryfhau ein heconomi, amddiffyn yr amgylchedd a diogelu ein dyfodol.
Bydd y llywodraeth nesaf yn etifeddu heriau anodd: rhestrau aros hir y GIG, pwysau i dyfu’r economi, targedau sero net heriol, tlodi plant cynyddol, adeiladu tai. Bydd angen iddi gyflawni gwelliannau gweladwy i bobl, a hynny’n gyflym - ond mae hyn yn cael ei wneud yn anodd gan ffyrdd o weithio ar wahân, gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio’n wael, a chyflawni araf. Mae’r Adolygiad Gwariant diweddar yn ei gwneud yn glir: bydd lefelau cyllid yn mynd i lawr, nid i fyny. Mae dewisiadau anodd o’n blaenau.
Ers gormod o amser, rydym wedi dibynnu ar atebion tymor byr i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd.
Ychydig bach mwy o arian yn y fan hyn. Peth aildrefnu fan draw. Ond nid yw hyn yn ddigon i ymdrin â’r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu.
Rydym yn cadw’r un bobl mewn swyddi pwysig ac yn cau’r drws ar dalent newydd ym maes arweinyddiaeth. Rydym yn defnyddio’r un hen ddulliau o ddylunio a darparu gwasanaethau - gan ailadrodd yr un camgymeriadau dro ar ôl tro.
Mae’n bryd torri cylch o reoli argyfwng. Mae angen i ni gynllunio ar gyfer y tymor hir. Mae hynny’n golygu ailystyried sut mae llywodraeth yn gweithio – nid yn unig beth mae’n ei gyflawni, ond sut.
Wrth i ddatganoli roi mwy o rym i Gymru, nid ydym wedi cynyddu ein gallu i gyflawni’r newid pwysig hwnnw. Rhaid inni nawr adeiladu gallu’r wladwriaeth i reoli er mwyn creu Cymru fwy bywiog, llwyddiannus a llewyrchus.
Mae angen dull digidol arnom
Nid technoleg yn unig yw dull digidol. Mae’n ymwneud hefyd â sut rydym yn dylunio, yn darparu ac yn cynnal gwasanaethau. Wedi’i wneud yn dda, gall drawsnewid sut mae newid gwirioneddol yn cael ei wireddu.
Yn hytrach na dechrau gyda’r hyn y mae bwrdd iechyd neu asiantaeth lywodraethol yn credu sydd ei angen ar bobl, mae dull digidol yn dechrau drwy ymchwilio a deall anghenion go iawn – bod wrth wraidd bywydau pobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae’n golygu gweithio mewn timau bach, rhai traws-swyddogaethol. Profi syniadau bach yn gynnar. Dysgu beth sy’n gweithio. Profi beth sy’n helpu. Mae’n golygu canolbwyntio ar ganlyniadau gwirioneddol, nid allbynnau – a bod yn agored ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim.
Mae’r dull hwn yn helpu llywodraeth i ganfod problemau’n gynharach a’u datrys yn gyflymach. Mae’n lleihau gwastraff. Mae’n adeiladu gwasanaethau sy’n symlach, yn gyflymach, ac yn fwy cynhwysol.
O’i wneud yn iawn, mae dull digidol yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i wneud mwy gyda llai – ac yn meithrin ymddiriedaeth ar hyd y ffordd.
Ein gweledigaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu strategaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru, nid yn unig i ddiwallu gofynion brys y presennol ond i gyflawni gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gallwn sicrhau Cymru ffyniannus, wydn, sy’n iachach ac yn fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae’r dewis i lywodraeth nesaf Cymru yn un mawr: parhau ag atebion tymor byr a rhwystredigaethau etifeddol, neu ymrwymo i drawsnewidiad gwirioneddol. Trawsnewidiad sy’n dwyn ynghyd gyrff hyd braich, llywodraeth leol a’r GIG i gyflawni dros Gymru.