Helo bawb!

Mae hi wedi bod yn fis prysur i Trawsnewid Cymru.

Roedden ni wrth ein bodd yn cynnal ein digwyddiad cyntaf gyda TransformGov Talks, gan ddod â phobl ynghyd yng Nghaerdydd ac ar-lein i glywed enghreifftiau ymarferol o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Diolch enfawr unwaith eto i bawb a siaradodd, a ymunodd â ni ac a gyfrannodd at drafodaeth mor fywiog.

Darllenwch ein myfyrdodau ar y digwyddiad yng Nghaerdydd

Mae’r sgwrs hefyd wedi teithio y tu hwnt i Gymru. Aeth Ann Kempster a Dafydd Vaughan o Trawsnewid Cymru i’r Alban ar gyfer sesiwn arall o TransformGov Talks, lle buon nhw’n cyflwyno syniadau o’n hadroddiad Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern ac yn trafod dyfodol gwasanaethau cyhoeddus.

Mae wedi bod yn wych cysylltu â phobl ar draws y gwledydd datganoledig, cymharu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ac edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd gennym yn gyffredin. Mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd – ac rydyn ni’n gobeithio mai megis dechrau y mae’r sgyrsiau hyn.

Gwyliwch recordiadau o ddigwyddiadau TransformGov Talks


Newyddion digidol y mis yng Nghymru

Ailfeddwl Patrymau Gwasanaeth: beth sy’n newid a beth sydd nesaf
Mae Adrián Ortega, Uwch Ddylunydd Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, yn rhannu sut mae’r llyfrgell Patrymau Gwasanaeth yn datblygu i helpu timau i ailddefnyddio dulliau cyffredin wrth ddylunio gwasanaethau o’r dechrau i’r diwedd. Bydd Labordy Patrymau Gwasanaeth newydd yn dod â phobl o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru ynghyd i brofi’r model, rhannu arbenigedd a helpu i lunio’r camau nesaf.

Dysgu a gweithredu – ein taith hyd yma wrth wneud ymchwil defnyddwyr ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn rhannu sut mae ymchwil gyda darparwyr llety yn helpu i lunio ei wasanaeth Ardoll Ymwelwyr. Drwy ddysgu am realiti rhedeg busnesau llety, mae’r tîm wedi symleiddio ei ddull, lleihau faint o ddata y mae’n bwriadu ei gasglu a dylunio gwasanaeth sy’n adlewyrchu’n well sut mae pobl yn gweithio.

Archwilio sut i wella dyluniad canlyniadau profion yn Ap GIG Cymru
Mae Nia Campbell o Transform Wales yn esbonio sut mae tîm Ap GIG Cymru yn ailgynllunio canlyniadau profion i helpu cleifion i ddeall beth mae eu canlyniadau’n ei olygu a beth sy’n digwydd nesaf. Drwy ddod â chleifion, meddygon teulu, dylunwyr, datblygwyr a chydweithwyr diogelwch cleifion ynghyd, mae’r tîm yn dysgu sut mae newidiadau dylunio sy’n ymddangos yn syml yn cysylltu â’r gwasanaeth iechyd ehangach.

Blwyddyn o ddylunio gwasanaethau yn GIG Cymru
Mewn cyfres ddwy ran, mae Eri Hirose, Prif Ddylunydd Gwasanaeth yn myfyrio ar ei blwyddyn gyntaf yn gweithio ar wasanaethau cymhleth y GIG. Mae’r rhan gyntaf yn edrych ar wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys systemau nad ydynt yn cysylltu â’i gilydd, allgáu digidol a’r risg o dybio mai digidol yw’r ateb bob tro. Mae’r ail ran yn edrych ar frechu plant oed ysgol, a sut gall ymchwil a dylunio gwasanaethau helpu i leihau gwaith â llaw, cysylltu systemau a chreu gwasanaethau mwy cynhwysol o’r dechrau i’r diwedd.

Cyflwyno’r Swyddfa ar gyfer AI: pwy ydym ni a beth rydyn ni yma i’w wneud
Mae Mark Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa AI Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno gwaith y Swyddfa i helpu gwasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu AI yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae’r Swyddfa’n canolbwyntio ar ganllawiau ymarferol, sgiliau a dysgu ar y cyd, gan ddechrau gyda phroblemau go iawn a chanolbwyntio ar ble gall AI greu gwerth gwirioneddol, yn hytrach na mabwysiadu technoleg er ei mwyn ei hun.

Llywodraeth Cymru yn partneru â chwmni AI i ddatblygu AI Cymraeg
Mae Nation.Cymru yn adrodd ar bartneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni AI Cosine i wella sut mae ei fodel AI Lumen yn deall ac yn prosesu’r Gymraeg. Drwy ddarparu data, adnoddau ac arbenigedd Cymraeg, nod y bartneriaeth yw helpu technolegau AI newydd i weithio’n well yn ddwyieithog a’i gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau digidol bob dydd.


Digwyddiadau i ddod

GovCamp Cymru – dydd Gwener 6 Tachwedd, Caerdydd
Mae GovCamp Cymru yn dod â phobl ynghyd i rannu syniadau a phrofiadau o wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r trefnwyr yn awyddus i groesawu pobl sydd heb fod o’r blaen, yn enwedig y rhai sy’n gweithio i awdurdodau lleol. Os ydych chi’n gweithio i awdurdod lleol, defnyddiwch y cod mynediad arbennig LAspecial wrth archebu gyda’ch cyfeiriad e-bost gwaith. Bydd y rownd olaf o docynnau cyffredinol ar gael am 12:30pm ar 15 Hydref.