Arweinyddiaeth glir, feiddgar ac atebol
Mae trawsnewid gwasanaeth cyhoeddus yn gofyn am arweinyddiaeth glir a beiddgar.
Arweinyddiaeth sy’n deall maint y newid sydd ei angen arnom, sy’n barod i herio - a chael ei herio. Arweinyddiaeth gyda’r weledigaeth, yr awdurdod, a’r dyfalbarhad i sbarduno newid parhaol.
Ar hyn o bryd, mae arweinyddiaeth yng Nghymru yn dameidiog. Mae pethau wedi’u rhannu rhwng nifer o weinidogion, tri Phrif Swyddog Digidol, a dau gorff ‘cyflenwi’ – y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
Mae gan bob un flaenoriaethau, dulliau a strategaethau ar wahân.
Nid oes un ffigur atebol yn gosod cyfeiriad, yn hyrwyddo arfer da nac yn uno’r system y tu ôl i weledigaeth a rennir. Er enghraifft, yn GIG Cymru, ni all y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol reoli na gosod cyfeiriad y ddarpariaeth ddigidol yn yr Adran Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol na byrddau iechyd unigol. Mae gan bob un ei strategaeth ddigidol a’i fframweithiau atebolrwydd ei hun.
Ar ben hyn, mae gan Gymru nifer sylweddol o fyrddau, pwyllgorau a fforymau llywodraethu. Er mai’r bwriad yw goruchwylio, maent yn aml yn troi’n siopau siarad. Maent yn amsugno amser ac adnoddau gwerthfawr heb wir gyflymu’r ddarpariaeth na meithrin ffyrdd newydd o feddwl, gan adlewyrchu diffyg dychymyg ehangach wrth fynd i’r afael â materion systemig.
Dylai llywodraeth nesaf Cymru:
A. Penodi Gweinidog dros Ddigidol
Mae angen hyrwyddwr ar y lefel uchaf i sicrhau trawsnewid. Rhywun a all eirioli dros ddull modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws y llywodraeth.
Dylai’r Gweinidog hwn:
- fod yn gyfrifol am strategaeth ddigidol genedlaethol feiddgar
- arwain newid diwylliannol yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u cyflawni
- aros yn y swydd am dymor llawn y Senedd er mwyn sicrhau cysondeb
B. Sefydlu Prif Swyddog Digidol cenedlaethol ac Uned Cyflawni Digidol i Gymru
Mae angen mwy nag un hyrwyddwr ar Gymru – mae angen tîm ymroddedig o arbenigwyr, dan arweiniad Prif Swyddog Digidol, a all gynrychioli a thrawsnewid y gwasanaeth cyhoeddus cyfan: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff hyd braich, a’r GIG.
Dylai’r Prif Swyddog Digidol cenedlaethol i Gymru:
- fod ar lefel Cyfarwyddwr Cyffredinol, gan adrodd i’r Ysgrifennydd Parhaol a’r Gweinidog dros Ddigidol
- bod yn arweinydd gweladwy a chydnabyddedig ym maes arloesi o ran gwasanaethau cyhoeddus digidol, a hynny’n genedlaethol ac yn fyd-eang
- meddu ar hanes llwyddiannus ym maes gwasanaethau digidol ar raddfa fawr (nid TG) a dealltwriaeth ddofn o ffyrdd gweithio modern, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- cael y grym i arwain trawsnewid ar draws y system – nid yn unig dylanwadu, ond gyrru a chyflawni newid yn weithredol
- bod yn Bennaeth Galwedigaeth ar gyfer digidol a thechnoleg ar draws y sector cyhoeddus cyfan
Dylai’r Uned Cyflawni Ddigidol weithredu fel canolfan arweinyddiaeth weladwy sy’n meithrin hyder, yn newid meddyliau, ac yn ysbrydoli timau ledled Cymru.
Gyda’i gilydd, dylent ddarparu portffolio o wasanaethau effaith uchel i ddangos sut mae trawsnewid yn symud o drafodaeth i ganlyniadau pendant. Dylent gael mandad i ddod ag arweinyddiaeth ar draws sefydliadau ynghyd i ailgynllunio gwasanaethau trawsbynciol a chyflawni gwelliannau.
Dylent fod yn gyfrifol am adeiladu a chyflawni’r seilwaith cyhoeddus digidol sy’n cefnogi llywodraeth fodern. Yn y ddwy flynedd gyntaf dylent drawsnewid 3-5 o wasanaethau ar draws y llywodraeth, gan gynnwys:
- rheoli apwyntiadau ac atgofion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
- cofrestru, talu a rheoli’r dreth gyngor
- dod â budd-daliadau, hawliadau a thaliadau cymorth ynghyd ledled Cymru
Nid creu corff hyd braich arall yw hyn. Ond yn hytrach sefydlu uned yng nghanol y llywodraeth gyda’r awdurdod, y sgiliau a’r mandad i arwain newid ar draws y system gyfan.
C. Arwain trwy esiampl
Rhaid i Lywodraeth Cymru fodelu’r dull y mae am i eraill ei fabwysiadu. Mae hyn yn golygu:
- grymuso timau i weithio yn agored a rhannu dysgu
- dathlu cyflawniad wrth fod yn onest am heriau
- cofleidio diwylliant profi a dysgu a dangos gwaith sydd ar y gweill
Mae’r math hwn o arweinyddiaeth yn helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yn dangos beth yw ‘da’ yn ymarferol.