Yn ddiweddar, cyhoeddodd Archwilio Cymru gyfres o archwiliadau yn edrych ar ddarpariaeth ddigidol ar draws byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru.

O Gaerdydd a’r Fro i Fae Abertawe, ac mewn ymddiriedolaethau arbenigol fel Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at yr un patrwm systemig. Mae timau ymroddedig sy’n gweithio mewn amgylcheddau clinigol dan bwysau mawr yn gorfod cynnal seilwaith sy’n heneiddio, ymdopi â threfniadau llywodraethu tameidiog, ac adrodd ar weithgarwch TG yn hytrach na chanlyniadau iechyd.

Ar draws GIG Cymru, mae byrddau iechyd yn gwario cyfanswm o £216 miliwn y flwyddyn ar dechnoleg. Ond mae dros 80% o gyllidebau lleol – tua £170 miliwn – yn cael ei wario ar gadw hen systemau ar waith. Mae hynny’n gadael dim ond 20% ar gyfer newid digidol go iawn.

Wrth i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth ddigidol newydd ar gyfer GIG Cymru, mae’r gyfres hon o archwiliadau’n rhoi darlun clir o’r sefyllfa go iawn. Mae angen inni roi’r gorau i drin digidol fel cyfres o brosiectau TG ar wahân, a dechrau ei drin fel newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn darparu gofal iechyd. Nid dogfen bolisi arall yn llawn addewidion cyfforddus sydd ei hangen. Mae angen newid sylweddol i’r ffordd rydym yn ariannu, arwain a darparu gofal iechyd.

Y gwaith cynnal a chadw digidol nad ydym yn ei weld

Mae pob arweinydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwybod am y gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni yn ein hadeiladau – y toeau sy’n dadfeilio a’r gwaith trwsio sy’n cael ei ohirio ac sy’n ymddangos yn rheolaidd mewn dadleuon yn y Senedd. Ond mae problem debyg yn ein seilwaith digidol, ac mae’n llawer llai gweladwy.

Mae adeiladau a seilwaith digidol yn cystadlu am yr un gronfa o gyllid cyfalaf. Gan fod dyraniadau cyfalaf ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn fyrdymor ac yn anrhagweladwy, mae byrddau iechyd yn gorfod blaenoriaethu argyfyngau gweithredol yn barhaus.

Er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae angen £10 miliwn o gyllid cyfalaf bob blwyddyn dim ond i gadw’r seilwaith TG sylfaenol yn ddiogel. Ond £2.8 miliwn yn unig yw ei ddyraniad cyfalaf blynyddol. Mae hynny’n gadael bwlch o £7.6 miliwn bob blwyddyn, dim ond i gynnal systemau craidd.

Mae’r patrwm hwn yn ailadrodd ar draws Cymru. Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae aeddfedrwydd digidol yn parhau’n eithriadol o isel. Yn Felindre, mae hen dechnoleg fregus yn gorfodi timau clinigol i ddefnyddio prosesau â llaw i gadw golwg ar ganlyniadau profion. Pan nad yw systemau’n gallu cyfathrebu â’i gilydd, mae clinigwyr yn treulio oriau yn ail-deipio data cleifion rhwng gwahanol sgriniau. Mae’r amser clinigol sy’n cael ei wastraffu yn gost gudd i gapasiti’r GIG. Nid yw’n ymddangos ar daenlen, ond mae staff a chleifion yn talu’r pris bob dydd.

Y dagfa genedlaethol a chanoli

Mae’r pwysau ariannol hwn yn gwaethygu oherwydd y bwlch rhwng strategaeth genedlaethol a darparu’n lleol. Y rhagdybiaeth bolisi arferol yng Nghymru yw mai un system ganolog ‘Unwaith i Gymru’ yw’r dewis mwyaf effeithlon am ein bod yn genedl fach. Yn ymarferol, mae’r canoli hwn wedi dechrau ein dal yn ôl.

Mae’r dull canolog hwn yn golygu bod tagfa yn y canol yn gallu atal cynnydd clinigol ym mhobman arall. Edrychwch ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS). Cafodd ei chyflwyno fel yr un ateb digidol a fyddai’n cysylltu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond ar ôl blynyddoedd o oedi wrth ei rhoi ar waith, roedd byrddau iechyd a chynghorau yn sownd gyda llwyfan oedd yn cael trafferth. Bellach, wrth i WCCIS gyrraedd diwedd ei hoes, mae sefydliadau wrthi’n symud oddi wrthi.

Mae’r un diffyg cynnydd i’w weld mewn meysydd clinigol eraill. Cafodd Patholeg Gellog Ddigidol ei threialu yn 2013, ond dros ddegawd yn ddiweddarach mae’r broses gaffael yn dal i lusgo. Mae rhaglenni cenedlaethol mawr sy’n cael eu rheoli gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) – fel y System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) a’r broses o gaffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) – wedi wynebu oedi dro ar ôl tro. Ym Metsi Cadwaladr, cafodd achos busnes lleol ar gyfer Cofnod Iechyd Electronig ei atal wrth aros am ateb cenedlaethol. Yn y cyfamser, mae staff yn dal i ddibynnu ar gofnodion papur a 400 o systemau tameidiog.

Wrth wraidd hyn mae problem fawr o ran llywodraethu: nid yw rolau ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru, DHCW a’r byrddau iechyd yn ddigon clir. Mae prif weithredwyr lleol yn parhau i fod yn gyfreithiol atebol am ddiogelwch cleifion, ond nid oes ganddynt reolaeth dros amserlenni darparu meddalwedd cenedlaethol.

Prinder sgiliau a’r demtasiwn i brynu meddalwedd

Nid yw technoleg ond mor effeithiol â’r sgiliau a’r trefniadau llywodraethu sy’n sail iddi. Mae Archwilio Cymru yn dangos bod byrddau iechyd yn wynebu heriau difrifol wrth recriwtio pobl â sgiliau digidol arbenigol oherwydd nad yw strwythurau cyflog y sector cyhoeddus yn gystadleuol. Yng Nghwm Taf Morgannwg a Phowys, mae timau sydd eisoes dan bwysau yn golygu bod byrddau iechyd yn dibynnu’n ormodol ar gontractwyr.

Heb ddigon o allu digidol mewnol, yr ymateb diofyn yw prynu pecynnau meddalwedd parod sy’n addo ateb cyflym. Ond ni all unrhyw becyn meddalwedd drwsio llwybr clinigol nad ydych yn ei ddeall yn iawn. Mae prynu meddalwedd heb y seilwaith sylfaenol – fel safonau data agored – yn awtomeiddio arferion gwael ac yn creu seilos newydd.

Mae’r ffordd y mae byrddau’n goruchwylio’r gwaith yn gwaethygu’r broblem. Mae diweddariadau i fyrddau yn canolbwyntio ar jargon technegol ac adroddiadau cyflenwyr yn hytrach na chanlyniadau clinigol. Mae cytundebau caffael gwerth miliynau o bunnoedd yn cael eu cymeradwyo heb werthuso wedyn a yw’r systemau wedi arbed amser clinigol mewn gwirionedd.

Sut beth yw darparu sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr?

Nid stori am fethiant anochel yw hon. Ar draws Cymru, mae gennym dystiolaeth bod ffordd wahanol o weithio yn gallu llwyddo pan fydd timau’n cael yr amser, y sgiliau a’r rhyddid i gyflawni.

Mae datblygu Ap GIG Cymru yn dangos y newid hwn. Yn hytrach na’i drin fel darn o feddalwedd i’w gyflwyno unwaith, canolbwyntiodd y tîm ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr: mapio teithiau defnyddwyr, cynnal ymchwil gyda chleifion, a phrofi prototeipiau fesul cam. Drwy flaenoriaethu anghenion defnyddwyr a safonau agored, dangosodd y tîm fod Cymru’n gallu adeiladu offer digidol modern y mae pobl wir eisiau eu defnyddio. Mae angen i hyn ddod yn arfer safonol ar draws pob gwasanaeth, nid yn eithriad prin.

Beth sydd angen i strategaeth ddigidol newydd GIG Cymru ei gyflawni?

Mae Strategaeth Ddigidol a Data newydd GIG Cymru yn cynnig cyfle i dorri’r cylch hwn. Mae angen iddi gyflawni pum newid strwythurol:

  • Sefydlu arweinyddiaeth glir, feiddgar ac atebol ar gyfer trawsnewid digidol. Pennu gweledigaeth glir ar gyfer trawsnewid gwasanaethau yn y GIG, a sefydlu ffiniau clir rhwng rôl Llywodraeth Cymru wrth bennu polisi, rôl DHCW wrth ddarparu’n ganolog, a rôl byrddau iechyd wrth ddarparu’n lleol.

  • Adeiladu seilwaith digidol y gellir ei ailddefnyddio, nid systemau meddalwedd enfawr. Rhoi’r gorau i orfodi byrddau iechyd i aros am flynyddoedd am systemau enfawr ‘Unwaith i Gymru’ gan un cyflenwr. Dylai’r canolbwynt cenedlaethol fod ar adeiladu seilwaith digidol modiwlaidd a rennir – safonau data agored, systemau adnabod cyffredin a chydrannau y gellir eu hailddefnyddio. Byddai hyn yn galluogi byrddau iechyd lleol i adeiladu gwasanaethau hyblyg sy’n diwallu anghenion clinigol lleol.

  • Ariannu timau cynnyrch hirdymor, nid prosiectau sy’n dechrau ac yn stopio. Disodli potiau cyfalaf byr-dymor ac anrhagweladwy â chyllid refeniw cynaliadwy ar gyfer timau amlddisgyblaethol. Dylai’r timau hyn fod yn gyfrifol yn barhaus am ganlyniadau clinigol a mynd ati’n systematig i leihau dyled dechnegol.

  • Dechrau gyda chlinigwyr a chleifion. Symud oddi wrth brynu atebion TG parod. Yn lle hynny, mae angen deall yn iawn sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a chyd-ddylunio offer yn uniongyrchol gyda meddygon, nyrsys a chleifion er mwyn osgoi allgáu digidol.

  • Mynnu tryloywder llwyr a gwerthuso ar ôl gweithredu. Ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ac asiantaethau cenedlaethol fel DHCW weithio’n agored, rhannu’r hyn maent yn ei ddysgu, a gwerthuso’n rheolaidd a yw buddsoddiadau digidol yn darparu gwerth mesuradwy i ofal cleifion.

Mae Archwilio Cymru wedi rhoi darlun anghyfforddus o gyflwr technoleg gofal iechyd yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle pwysig nawr i lunio strategaeth sy’n symud y pwyslais oddi wrth gadw hen systemau ar waith, ac at ddarparu gofal modern sy’n canolbwyntio ar bobl.