GovCamp Cymru 2025: adeiladu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyda'n gilydd
Am ddiwrnod gwych yn GovCamp Cymru! Roedd yr egni, haelioni a’r chwilfrydedd ym mhob ystafell yn heintus, ac yn brawf pan fyddwch chi’n dod â phobl sy’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ynghyd, mae syniadau da yn llifo’n gyflym. Fe wnaethon ni gyflwyno a chynnal sesiwn ar ‘Gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’. Ymunodd tua 40 o bobl â ni i archwilio sut olwg fyddai ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwych, a beth sy’n ein dal yn ôl. Yr hyn a glywsom: rhannu gweledigaeth.